Cwestiynau cyffredin

Cyn cysylltu â ni, efallai yr hoffech weld a yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yma.

Sut alla i logi neuadd?

Ewch i dudalen y neuadd yr hoffech ei llogi – mae’r manylion cyswllt ar gyfer llogi ar y dudalen.

Sut ydw i’n cyflwyno manylion ar gyfer neuadd?

Gallwch ddefnyddio’r wefan hon i gyflwyno manylion eich neuadd. Gofynnir ichi gofrestru yn ddefnyddiwr yn gyntaf.

  • Gwasgwch ar Ychwanegu eich Neuadd uchod.
  • Llanwch y ffurflen gofrestru
  • Fe gewch ebost yn cynnwys dolen i gadarnhau
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau i gyflwyno’r wybodaeth am eich neuadd.

Sut ydw i’n ychwanegu Newyddion ar gyfer neuadd?

Gallwch bostio Newyddion am eich neuadd eich hun os ydych wedi ychwanegu’r Neuadd i’r wefan yn barod.

Bydd angen ichi fewngofnodi gyda’r cyfeiriad ebost a’r cyfrinair a grëwyd gennych wrth ychwanegu’r neuadd.

Er mwyn mewngofnodi gwasgwch ar Mewngofnodi Neuaddau ar waelod y sgrîn.

Neu gallwch eu danfon atom ni - ebost admin@cavs.org.uk

 

Sut ydw i’n mewngofnodi?

Gwasgwch ar Mewngofnodi Neuaddau ar waelod y sgrîn.