Ffurfiwyd y Clwb ym 1948, ac erbyn hyn mae’n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru - y lefel uchaf posib y gall y clwb ei chyrraedd.
Agorwyd y Ganolfan Gymunedol yn 2009
Mae'n hollol addas ar gyfer unrhyw achlysur.
Mae wedi ei haddurno'n gysurus a'i haerdymheru'n llwyr.
Celfi cyffyrddus - digon ar gyfer 150 o bobl.
Yn addas ar gyfer disgo ieuenctid a gweithgareddau eraill.
Mae'n harlwywyr mewnol yn cynnig prydau bwyd rhagorol gan gynnwys Cinio Dydd Sul.
Teledu Sky.
www.carmarthentown.net
Parc Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HZ
Cymdeithasol: Mark Hannington 07929 509539
Busnes: Jeff Thomas 07813 697774
jeffthomas@jeffthomas.plus.com
Ystafelloedd cyfarfod.
Cyfleusterau cynadledda.
Bar trwyddedig llawn.
Yn ystod y dydd, mae’r Ganolfan yn hawdd ei chyrraedd o Faes Parcio San Pedr trwy Barc Waun Dew (100 llath ar hyd llwybrau concrit). Mae yna le i barcio 25 car o fewn Parc Waun Dew, mynediad o Faes Parcio San Pedr. Mae Maes Parcio Heol y Prior gyferbyn â’r ganolfan.
Un gris (i'r ystafell gyfarfod lawr llawr)
Cyfarwyddiadau:
O'r Rheilffordd - Gorsaf y Brif Linell
Ar ôl gadael yr orsaf, croeswch hen bont Caerfyrddin i gyfeiriad tref Caerfyrddin. Wrth y golau, croeswch yr heol a dilynwch y ffordd i’r dde i fyny Rhiw’r Castell heibio i Neuadd y Sir ac ewch ar hyd Heol Spilman ac yna Heol y Prior am 200m, heibio i Eglwys San Pedr. Fe fyddwch yn dod at Y Ganolfan trwy faes parcio Heol y Prior. Tua 1 filltir o’r orsaf drenau / 10-15min
Ar y Ffordd
O’r D & Gn – M4/A48 (Abertawe/Llanelli)
Wrth y gylchfan fawr ar gyrion y dref, cymerwch y 3edd allanfa gan ddilyn yr arwydd at Ganol y Dref. Wrth y gylchfan nesaf, cymerwch yr allanfa gyntaf i’r chwith a pharhewch at y gylchfan nesaf. Cymerwch yr ail allanfa at ganol y Dref. Croeswch hen bont Caerfyrddin yna dilynwch fel uchod.
A40 (Hwlffordd)
Dilynwch yr arwyddion at Aberteifi / Llanbedr Pont Steffan a Llandeilo / Aberhonddu. O Hen Bont Caerfyrddin a’r Castell – dilynwch y cyfarwyddiadau uchod
O’r Dn & G A484 & A485 (Llanbedr Pont Steffan) A40 (Llandeilo, Aberhonddu)
Wrth y gylchfan ar gyrion Caerfyrddin yn Abergwili defnyddiwch y ffordd osgoi (arwyddion yn dweud 'traffig trwodd'). Wrth y gylchfan fawr nesaf (1 filltir) trowch i’r dde a dilynwch yr arwyddion at yr Ysbyty (H A & E) a’r Rheilffordd Ager. Trowch i’r chwith wrth y gylchfan nesaf ac yna heibio i’r ysbyty tuag at y gylchfan fach. Trowch i’r chwith at ganol y dref. Ewch ar draws y gylchfan fawr ac o fewn 1 filltir wrth y gylchfan fach ewch ar hyd Heol y Prior. Mae’r Ganolfan Gymunedol ar y chwith ar ôl tua 200m
Bws
O'r orsaf fysiau, cerddwch drwy’r ardal bedestraidd i gyfeiriad Eglwys San Pedr. Cerddwch ar hyd Heol y Prior am tua 200m. Mae’r ganolfan gymunedol ar y chwith trwy faes parcio Heol y Prior. Taith tua 10min.