Glan-y-fferi - Neuadd y Pentref, Glan-y-fferi

Glan-y-fferi - Neuadd y Pentref, Glan-y-fferi

Tarddiad yr enw Glan-y-fferi yw'r fferi a deithiai ar draws aber yr Afon Tywi. Roedd ar daith y pererinion canoloesol i Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Mae o fewn cyrraedd hwylus i Gaerfyrddin a Llanelli, ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd, ac, o ganlyniad, mae'n lle poblogaidd i deuluoedd ifanc a phobl sydd wedi ymddeol fel ei gilydd. Mae yma ysgol gynradd, swyddfa bost, tri lle addoli, tafarn, gwesty, clwb chwaraeon a chlwb hwylio.




Y Neuadd

Adeiladwyd y neuadd ym 1925 gan ŵr busnes lleol, fel menter fasnachol. Yn wreiddiol, adeilad dau lawr ydoedd, gyda'r perchennog a'r teulu yn byw dros y siop. Hefyd, i fyny'r grisiau, roedd neuadd filiards, ac ar y llawr gwaelod roedd siop / caffi, cegin y teulu a neuadd fawr. Ym 1948, daeth yn eiddo i'r cyhoedd. Erbyn 1965 roedd yr eiddo mewn cyflwr gwael. Oherwydd cyfyngiadau ariannol, roedd yn rhaid aberthu peth o'r gofod a chael gwared ar y llawr uchaf.


Prisiau Llogi:

Prif Neuadd £7.50 yr awr

Parti Plant £20

Parti Oedolion £40

Ystafelloedd Cyfarfod £5 yr awr


Teras y Neuadd, Glan-y-fferi, CAERFYRDDIN SA17 5SN
Elusen Gofrestredig 523891


Nodweddion

  • Neuadd fawr (hyd at 200 ar eu heistedd) gyda llwyfan prosceniwm ac ystafell wisgo.
  • Cegin gydag amrywiaeth dda o offer a dwy ystafell gyfarfod.
  • Toiledau merched a dynion a thoiledau i'r anabl.
  • Mae yna ris i fyny i mewn i'r neuadd a defnyddir ramp symudol i roi mynediad i gadeiriau olwyn.

Cyswllt

Davinia King   Tel:01267 267914  Email: davinia.king@yahoo.co.uk



Oriel




Cyfarwyddiadau

Mae'r neuadd wedi ei lleoli ar y brif stryd trwy Glan-y-fferi, i'r de o Orsaf y Rheilffordd


Cyfleusterau

  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC