Yr Hen Ysgol, Capel Dewi

Yr Hen Ysgol, Capel Dewi

Pentref bach yw Capel Dewi, bum milltir o Gaerfyrddin, ar ffordd y B4300 i Lanarthne a Llandeilo.
Mae'r pentref yn gymuned ffermio, ac mae wedi tyfu i fod yn bentref i gymudwyr, i bobl sy'n gweithio yng Nghaerfyrddin a'r ardal gyfagos.




Y Neuadd

Yr Hen Ysgol, Capel Dewi, Caerfyrddin, SA32 8AD

Prynwyd Yr Hen Ysgol gan Gyngor Sir Gâr ym 1992, i'w defnyddio fel man cyfarfod ar gyfer y gymuned. Mae'n cael ei defnyddio'n rheolaidd ar gyfer dosbarthiadau cyfrifiadurol, dawnsio llinell, a'r Ffermwyr Ifanc. Unwaith y mis, mae'r Gymuned yn cynnal boreau coffi, a chyfarfodydd pwyllgor.
Ychwanegwyd cwrt tennis ac ardal chwarae i blant yn 2001, gyda chymorth grantiau. Yn 2009, codwyd adeilad newydd fel gweithdy / storfa, a chaiff ei ddefnyddio gan y Ffermwyr Ifanc, ac ar gyfer bowlio mat byr.

Llogi'r neuadd: £25 am 3 awr, neu £40 y dydd.

Mae'n gallu dal uchafswm o 80 o bobl.

25 Lle Parcio

Mynediad i'r anabl yn y blaen a'r cefn.

Rhif elusen gofrestredig. 1017434


Nodweddion

Mae gan y neuadd gegin, toiledau a seddi ar gyfer 80 o bobl. Mae'n cael ei gwresogi â gwresogyddion storio, a gwresogyddion trydan atodol. Bydd gan y Gyfadeilad wresogyddion storio cyn hir, ac mae ganddo doiled.


Cyswllt

Tony Emmerson   Tel:01267 290361  Email: tonyemmerson353@yahoo.com





Cyfarwyddiadau

O Gaerfyrddin, cymerwch y B4300 o Langynnwr tuag at Lanarthne. Mae'r neuadd 4 milltir o Langynnwr, yng nghanol y pentref ar ochr dde'r heol.


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level EntranceLevel Entrance
  • Level Entrance (High Threshold)Level Entrance (High Threshold)