Caerbryn - Neuadd y Pentref, Caerbryn

Caerbryn - Neuadd y Pentref, Caerbryn



Y Neuadd

Ffurfiwyd Cymdeithas Les Caerbryn dros 75 mlynedd yn ôl, a chynhaliwyd ei chyfarfod cyntaf yn sied goch y pwll glo.

Gyda llond lle o grantiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, werth dros  £130,000, mae'r tir o gwmpas y safle a'r sied goch wedi datblygu i fod yn barc hamdden gyda neuadd les fodern. Mae'n llawn bob dydd a nos yn ystod yr wythnos gyda gweithgareddau yn amrywio o wersi Salsa i fingo.


Nodweddion

Mae'r neuadd yn gwbl hygyrch ac mae maes parcio ar y safle.


Cyswllt

Robert Quick   Tel:01269 851276





Cyfarwyddiadau

O Rydaman, ewch ar yr A483 tuag at Landybie. Wedi cyrraedd Llandybie, trowch i'r chwith ar ddiwedd Heol Rhydaman i ymuno â'r B4556. Ewch tua'r de orllewin ar y B4556 tan i chi gyrraedd Caerbryn. Trowch i'r chwith i lawr Ffordd Caerbryn, sydd ar dro llym i'r dde ar y B4556. Y neuadd yw'r adeilad cyntaf ar y dde.

O Cross Hands, ewch tua'r gogledd-ddwyrain tuag at Gorslas. Wedi cyrraedd Gorslas, dilynwch y B4556 hyd nes i chi gyrraedd Caerbryn. Trowch i'r dde i lawr Ffordd Caerbryn. Y neuadd yw'r adeilad cyntaf ar y dde.


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • 4 Steps4 Steps
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Ramp (up)Ramp (up)