Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre, Llandysul

Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre, Llandysul

Mae Drefach Felindre yn bentref yn Nyffryn Teifi yn Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru. Mae wedi ei leoli bedair milltir i'r de-ddwyrain o Gastell Newydd Emlyn.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân, a chyfeiriwyd ato fel "Huddersfield Cymru".

Yma, mae Amgueddfa Diwydiant Gwlân Cymru, sydd bellach yn Amgueddfa Wlân Genedlaethol, a agorwyd ym 1976. Ganwyd y bardd a'r darlledwr Aneirin Talfan Davies yn y pentref.




Y Neuadd

Mae'r neuadd fawr y gallu dal tua 200 o bobl ac mae'n cynnwys llwyfan fawr.

Cyswllt ar gyfer Llogi: Ffion Davies   Tel:07929 348 147


Nodweddion

  • Neuadd Fawr
  • Ardal Llwyfan
  • Ystafell Grwp Chwarae
  • Neuadd Snwcer

Cyswllt

Ffion Davies    Tel:07929 348 147



Oriel




Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A484 allan o Gaerfyrddin am tua 11 milltir, ac fe fydd yn eich arwain trwy Gynwyl Elfed a Chwmduad. Ar ôl gadael Cwmduad, a chyn mynd i mewn i bentref Rhos, trowch i'r chwith tuag at Drefach Felindre. Ar y gyffordd pum-ffordd, ewch ymlaen yn syth, gan gymryd y fforch ar y dde. Mae hyn yn mynd â chi drwy Gwmpengraig ac ymlaen at Drefach Felindre. Yn y pentref, trowch i'r dde ar ôl yr eglwys ar y chwith. Mae'r neuadd 10 llath ar y dde, gyferbyn â'r siop Spar.


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level EntranceLevel Entrance
  • Ramp (up)Ramp (up)