Mae Cynwyl Elfed ar heol yr A484, tua saith milltir o Gaerfyrddin i gyfeiriad Aberteifi neu Gastell Newydd Emlyn. Mae yma ysgol gynradd, capel Methodistaidd ac eglwys sydd yn enwog am ei ffenestr ddwyreiniol - sef ffenestr y pum clwyf sy'n dangos Crist ar y groes. Hefyd mae yma dafarn y "Blue Bell" a Melin Wlân Elfed.
Adnewyddwyd y neuadd tua 5 mlynedd yn ôl. Hen ysgol oedd y neuadd, ac mae tua 120 o bobl yn medru eistedd yn y brif ystafell a thua 30 yn yr ystafell gyfarfod. Mae'r neuadd yn elusen gofrestredig (rhif 1096174) ac yn gwmni cyfyngedig (rhif 4517004).
Stryd y Meddyg, Cynwyl Elfed, Caerfyrddin, SA33 6TR.
Llwyfan, Gwres Canolog, Cegin, System Sain.
Mae'r neuadd yng nghanol y pentref, ar heol y B4333 tuag at Hermon a Chastell Newydd Emlyn.