Mae Carmel ar yr A476, oddeutu hanner ffordd rhwng Crosshands a Llandeilo.
Gerllaw, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol "Coed Carmel", a gyd-reolir gan Ymddiriedolaeth y Glaswelltiroedd, Tarmac a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae yna nifer helaeth o deithiau cerdded diddorol sy'n ystyried agweddau hanesyddol ac archeolegol yr ardal e.e. Owain Lawgoch, Chwarelu ac Odynau Calchfaen.
Adeiladwyd y Neuadd yn wreiddiol ym 1984, ond adeiladwyd adeilad newydd a modern yn 2008. Mae'n ffocws "canolog" i'r gymuned a'i phrif bwrpas yw darparu, hybu a chefnogi bywyd y gymuned. Saif y Neuadd ger parc o faint rhesymol. Pris llogi'r neuadd: £15 y dydd.
Gall y neuadd ddarparu ar gyfer 120 ar eu heistedd, yn gyffyrddus.
Mae yna ystafell ychwanegol a ddefnyddir fel ystafell bwyllgor.
Rhif yr elusen yw: 514808
Brooklands, Carmel, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 7SG
Neuadd fodern a adeiladwyd yn ddiweddar. Gall gynnal dramâu a gweithgareddau adloniant. Mae yna lwyfan o faint rhesymol.
Mae'r gegin yn fodern gydag offer digonol.
Mae'r system sain yn fodern ac wedi ei gosod i ddarparu ar gyfer pobl ag anghenion clyw unigol.
Gellir rheoli'r system wresogi â thermostat.
Hanner ffordd rhwng Crosshands a Llandeilo ar yr A476.
Mae'r adeilad yn ôl oddi ar y brif ffordd, ar y llaw chwith, wrth i chi fynd i mewn i'r pentref o gyfeiriad Crosshands.