Mae'r Tymbl yn bentref cymharol fawr ac yn fynediad prydferth i Gwm Gwendraeth. Fe'i lleolir i’r de o Gross Hands ac mae'n agos i dref Caerfyrddin a Llanelli yn Sir Gaerfyrddin.
Datblygwyd pentref y Tymbl yn y 19eg ganrif i ddarparu cartrefi ar gyfer y glowyr a gyflogwyd yn y glofeydd cyfagos - Dynant a’r Mynydd Mawr. Mae'r Tymbl yn gartref i Glwb Rygbi enwog, ac fe enillodd eu tîm cyntaf Gwpan Gorllewin Cymru bum tro, gan fagu'r Chwaraewr Rhyngwladol Archie Skym. Un o drigolion enwocaf pentref y Tymbl oedd y chwaraewr snwcer Gary Owen a ddaeth yn Bencampwr Amatur ym 1963 a 1966.
Rheolir Neuadd y Tymbl gan Gyngor Cymuned ac fe'i lleolir yn ganolog ar y Brif Ffordd sy’n rhedeg trwy’r Tymbl. Adeilad amlbwrpas yw Neuadd y Tymbl sy’n cynnig nifer o gyfleusterau er mwyn cynnal nosweithiau amrywiol, o briodasau, partïon, cyngherddau, cyfarfodydd, gwersi dawnsio, ymarferion corff a llawer mwy.
Os ydych am ragor o wybodaeth neu'r rhestr brisiau ddiweddaraf, neu os ydych yn dymuno gwneud ymholiadau ynghylch llogi’r neuadd, cysylltwch â ni ar: 01269 841213 neu llannonccclerk@outlook.com
Neuadd Y Tymbl, Heol Y Neuadd, Tymbl, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 6HR
Mae'r Neuadd yn cynnig dewis Eang o Ystafelloedd, Llwyfan a Goleuadau Llwyfan, System Sain, Meicrffon cludadwy a System i annerch y cyhoedd, Sgrin a Thaflunydd, Mynediad Band Eang, Cyfleustra Arlwyo, Bar (Trwydded Llawn 7 diwrnod o'r wythnos), Toiledau i’r anabl a system dolen sain, Maes Parcio
Mae'r Neuadd yn darparu ystod eang o gyfleusterau i sicrhau bod eich digwyddiad yn y Neuadd yn bleserus. Os oes gennych unrhyw anghenion eraill, fe fyddwn yn fwy na pharod i’ch helpu a’u trafod nhw gyda chi.
Lleolir Pentref y Tymbl 2 filltir o Ffordd Ddeuol A48 Cross Hands ac mae'n daith o ryw 4 munud yn y car tua'r de o gylchfan Cross Hands ar hyd Heol Bryngwili i bentref Tymbl. Mae’r dref sirol, Caerfyrddin, tua 12 milltir o'r Tymbl a 9 milltir o Lanelli (wrth ddilyn Heol Llandeilo o Ganol Tref Llanelli). Mae Pentref y Tymbl yn fynediad i Gwm Gwendraeth ac wedi ei leoli rhwng pentrefi Cross Hands, Pontyberem, Llannon a Chwm Mawr. Lleolir Neuadd y Tymbl yn ganolog ar y Brif stryd sy’n rhedeg trwy’r pentre’.