Llanllwni - Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni, Llanllwni, Pencader

Llanllwni - Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni, Llanllwni, Pencader

Lleolir Llanllwni ar y ffordd rhwng Llambed, 10 milltir i’r gogledd, a Chaerfyrddin, tua 12 milltir i’r de. Mae Llanllwni'n ardal wledig a’r plwyf yn ymestyn am ddwy filltir gyda tua 600 o gartrefi. Mae’r Afon Teifi yn llifo drwy’r plwyf ac yn ffurfio ffin orllewinol Sir Gâr a Cheredigion. Yn ogystal a’r Ysgol Gynradd, Eglwys Llanllwni a Chylch Meithrin Llanllwni, ceir amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau yn yr ardal, yn amrywio o Glwb Gwawr, CFfI Llanllwni, Undeb y Mamau, Pwyllgor yr Henoed a Phwyllgor y Maes Chwarae. Trefnir amrywiaeth o weithgaredd sydd yn gloywi bywyd cymdeithasol ein hardal. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch hwn yn digwydd yn Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni.




Y Neuadd

Mae Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni newydd gael ei hadnewyddu, gyda mynediad addas a chyfleusterau ar gyfer pobl anabl. Gwelir golygfeydd godidog o ddyffryn Teifi o'r adeilad, ac felly mae'n lleoliad hamddenol ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant o bob math.

Ar gael i’w llogi 
Diwrnod Cyfan – £40.00
Hanner Diwrnod - £25.00
Sesiwn Awr £12
Digwyddiad Codi Arian £15

Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni, Llanllwni, Pencader SA39 9DR

Cysylltwch â Meinir Evans 01559 395 699 neu Mike Harrington 01559 395 342

http://www.llanllwni.co.uk/


Nodweddion

Mae gan y neuadd gyfarpar technoleg, sef taflunydd aml bwrpas, system sain, chwaraewr cryno ddisgiau a gliniadur. Mae yna gegin bwrpasol, ac yn y flwyddyn newydd bwriedir rhoi llinell ffôn a gwefan i mewn. Gwresogir y neuadd gan wres darfudol sydd yn cynhesu’n gyflym. Mae yna wresogydd dwr sydd yn medru twymo dwr ar gyfer 80 dishgled o fewn 20 munud.

Mae yna le i barcio 50 o geir.


Cyswllt

Meinir Evans 01559 395699 / Mike Harrington 01559 395342   Tel:





Cyfarwyddiadau


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • 2 Disabled Spaces2 Disabled Spaces
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • Wheelchair Access to front (by prior arr.)Wheelchair Access to front (by prior arr.)
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level EntranceLevel Entrance