Tref fechan ar lannau’r Afon Taf yn Sir Gaerfyrddin yw Hendygwyn. Saif ar ffin y Sir , felly mae mewn safle delfrydol i wasanaethu Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal â Sir Gaerfyrddin. O amgylch y dref mae ardaloedd gwledig hyfryd ond mae hefyd yn agos i’r ffordd fawr sy’n cysylltu Llundain â’r Iwerddon.
Mae gan Hendygwyn ei gorsaf reilffordd ei hun ar ganol y dref, nifer o fusnesau llewyrchus, Ysgol Gynradd ac Ysgol Gyfun a Gerddi a Chanolfan adnabyddus Hywel Dda. Mae hefyd yn gartref I amrywiaeth eang o feysydd chwarae a chlybiau, gan gynnwys Rygbi, Pêl Rwyd, Pêl Droed, Criced a Bowls.
Mae Neuadd Goffa, Hendy Gwyn (www.whitlandmemorialhall.co.uk) yn Elusen Gofrestredig (Rhif 518760) yn gweithredu fel busnes “nid er elw” ac yn dibynnu’n gyfangwbl ar dderbyniadau hunangynhyrchiol.
Adeiladwyd Neuadd Goffa, Hendygwyn ym 1927 “i’w defnyddio’n wastadol fel man adloniant a chyfeillach gymdeithasol er budd trigolion tref Hendygwyn-ar-Daf yn ddiwahaniaeth o enwad na gwleidyddiaeth”.
Yn y Neuadd mae cofeb i’r rhai a fu farw yn y ddwy Ryfel Byd.
Cyfeiriad:
Memorial hall
Market Street
Whitland
SA34 0QB
Dwy ystafell eang
Gwres canolog a ffenestri gwydrog dwbl.
Cegin osod fodern gyda rhewgell, pentan nwy a ffwrn ficro-don.
Y cyfan ar un lefel (ramp mynediad i'r anabl ar gael).
Cyfleusterau i’r anabl a mynedfa ddrysau dwbl.
Yn hawdd i’w llogi - ffôn/post/e-bost/gwefan
CYFLEUSTERAU YCHWANEGOL
Fordydd a chadeiriau clustogog i’w defnyddio ar y safle.
Llestri a chytleri ar gael i’w defnyddio ar y safle.
Cysylltiad rhyngrwyd bandlydan WI-FI ar gael.
Prosiector a sgîn ar gael ar gyfer cyflwyniadau, trwy gytundeb ymlaen llaw.
O’r A40 cymerwch heol y B4328 i fewn i Hendygwyn. Mae’r Neuadd Goffa yn Stryd y Farchnad (B4328) gyferbyn â Modurdy’r Orsaf.
O’r orsaf reilffordd, cerddwch i fyny Stryd y Santes Fair, heibio Canolfan Hywel Dda a throi i’r chwith ar ôl i chi gyrraedd Stryd y Farchnad. Mae’r Neuadd Goffa gyferbyn â Modurdy’r Orsaf.