Abergorlech - Neuadd yr Eglwys, Abergorlech

Abergorlech - Neuadd yr Eglwys, Abergorlech

Mae'r pentref, sydd â 35 o dai, ar lan yr afon Cothi, ac mae ardal ffermio a choedwigaeth o'i amgylch. Yma, mae yna Gapel annibynnol ac Eglwys Dewi Sant, a hefyd tafarn y Llew Du. Yn y 1960au, enillodd Y Pentref Taclusaf yng Nghaerfyrddin, ac yn y flwyddyn ganlynol yng Nghymru. Caewyd yr ysgol ym 1985, a'r siop a'r Swyddfa Bost naw mlynedd yn ôl.




Y Neuadd

Adeiladwyd y neuadd ym 1931 ac fe gostiodd £400. Mae wedi cael ei defnyddio gan y gymuned, Merched y Wawr a'r Cyngor Cymuned ac ar gyfer chwaraeon, Pwyllgor y Dinesydd Hŷn, eisteddfodau, dramâu, cyngherddau, partïon a bwyd yn ystod angladdau. Gellir rhentu'r neuadd am gost o £10 yr awr. Mae'r neuadd yn cynnig lle i 120 ar eu heistedd.

Neuadd Eglwys Abergorlech, Abergorlech, Sir Gaerfyrddin, SA32 7SN


Nodweddion

Mae yna lwyfan, cegin tu cefn, ac ystafell storio. Olew sy'n gwresogi'r neuadd.


Cyswllt

Kathryn Mckenzie   Tel:07973122939



Oriel




Cyfarwyddiadau

Teithiwch o Gaerfyrddin tuag at Nantgaredig ar yr A40. Ychydig cyn cyrraedd pentref Nantgaredig, trowch i'r chwith arno i'r B4310. Parhewch ar hyd yr heol nes i chi gyrraedd Abergorlech.

O Landeilo, teithiwch tua'r gogledd ar yr A483. Wrth y gylchfan ewch yn syth ymlaen ac yna trowch i'r chwith arno i'r B4302. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon nes i chi gyrraedd y fforch yn y ffordd gan gymryd y B4337 i'r chwith. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon ac fe gyrhaeddwch dro sydyn. Ar ôl y tro hwn byddwch yn cyrraedd fforch arall yn y ffordd. Yma eto, cymerwch yr heol sydd i'r chwith - y B4310. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon nes i chi gyrraedd Abergorlech


Cyfleusterau

  • 1 Step1 Step
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front