Mae pentref Trap ar lannau’r afon Cennen, pedwar milltir i’r de ddwyrain o Landeilo yn Sir Gar; de orllewin Cymru. Mae’r pentref ar yr ochr orllewinol o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; ar lethrau’r Mynydd Du.
Gwelir Castell Carreg Cennen i’r dwyrain o’r Neuadd. Mae yna gyfle i ymweld â Llygad Llwchwr, Llwybr Ffordd Brycheiniog, Beddau’r Derwyddon, Tair Carn a Carreg Dwfn.
Agorwyd yr ysgol yn 1851 a daeth yn ganolfan gweithgar y gymuned leol. Caewyd yr ysgol yn 2006 oherwydd cwymp yn rhif yr ysgol. Prynwyd yr ysgol yn 2011 gan y Gymdeithas Gymunedol leol gydag arian y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth hael yr Arglwydd Dinefwr. Daeth yn Neuadd y Pentref Trap, ‘Yr Hen Ysgol’.
Mae'r Caffi ar agor ddydd Llun-ddydd Mawrth, ddydd Iau-dydd Sadwrn, 11:00-13:30.
Neuadd y Pentref Trap ‘Yr Hen Ysgol’, Trap, Llandeilo SA19 6TR
Rhif ffôn (oriau gwaith): 01558 615011
Gwefan: http://www.trapvillagehall.com/
Dimensiynau’r Neuadd – 15m X 11m (45’X 33’) (siap L) Yn eistedd 60.
Ar gael i’w logi fel:
Man cyfarfod gyda WiFi di-dâl, llungopïwr, cyfleusterau technoleg gwybodaeth, taflunydd, gliniadur gyda chyfarpar digidol clywedol a ffotograffig.
Fel neuadd gyda chegin drefnus a thaclus
Ar gael i’w logi (Beryl Owen 01558 823213)
Galwch i mewn am fyrbryd mewn amgylchfyd cyfeillgar.
Am adegau agoriadol a’r fwydlen ymwelwch â’n gwefan http://www.trapvillagehall.com/
Mae cyfarpar y gegin i gyd yn gyraeddadwy.
Mae mynediad i gadair olwyn tu blaen y Neuadd. Mae toiledau gyda thoiled i'r anabl a chyfleusterau i newid babi.
Mae piano electronig ar gael.
Mae gan y Neuadd wres canolog a phaneli solar.
Mae man parcio bach i gefn y Neuadd.