Mae pentre bychan Pont-Tyweli wedi ei leoli ychydig dros afon Teifi o Landysul. Daw’r enw o’r afon Tyweli sy’n llednant i’r Teifi. Pont-Tyweli oedd cartre‘r orsaf drenau a’r mart. Yma hefyd y lleolir y clwb Ceufad. Bu ym Mhont-Tyweli dair melin o leia a ddefnyddiau ddwr yr afonau Teifi a Tyweli i gynhyrchu trydan.
Adeiladwyd y Pwerdy rhwng 1921-1929. Roedd tri tyrbin yn defnyddio’r Afon Teifi i greu trydan ar gyfer Pont-Tyweli a Llandysul. O 1948 tan yr 1980au ni fu’r Pwerdy yn cael ei ddefnyddio nes bod grwp o bobl o’r un meddwl o gymunedau Llandysul a Phont Tweli yn dechrau defnyddio’r Pwerdy fel Canolfan Gymunedol a Chanolfan y Celfyddydau.
Cofrestwyd yng Nghymru: Rhif y Cwmni : 6022574
Rhif Elusen : 1135498
www.pwerdypowerhouse.co.uk
Ystafell Teifi: Lle ar gyfer 40 am sgwrs neu ffilm, neu ar gyfer gweithdai i fyny at 10-15.
Ystafell Cerdin: Ardal y dderbynfa yw hon sydd yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol bach - gellir eistedd i fyny at 12. Mae gyda ni beiriant llungopio a desg i'w llogi. Cegin fach gyda oergell, microdon, te a choffi, llestri.
Balconi: Ardal agored sydd o dan do, gyda lle i 10. Awyrgylch caffi yn edrych dros afon Teifi.
Ystafell Tyweli: ystafell ar gyfer cyfarfod neu ddarlith lle gellir eistedd 20.
Gyda WiFi drwy'r adeilad gellir defnyddio cyfrifiadur personol.
O Gaerfyrddin
Ymunwch a’r A485 am Lambed. Ar ol Alltwalis ewch heibio’r modurdy, trowch i’r chwith i gyfeiriad Pencader arwyddbost B4459.
Gyrrwch drwy Bencader am tua milltir, yna trowch i’r chwith (B4336)
Dilynwch y ffordd, troi i’r chwith wrth y “giveway”
Dilynwch y ffordd nes gweld arwydd mawr am Landysul. Trowch i’r dde i mewn am Bont-Tyweli.
Ewch i lawr y ffordd heibio i “Valley Services” ar y chwith. Ar y gyffordd trowch i’r chwith. Mae’r Pwerdy ar y r ochr dde.
O’r Gogledd
Dilynwch yr A486 am Landysul. Mae Gwasg Gomer ar y dde. Cymerwch yr ail “exit” ar y gylchdro mawr ewch i lawr y ffordd osgoi. Ar waelod y rhiw , cymewrch yr exit 1af. Wedyn y troad chwith cyntaf am Bont-Tyweli, heibio tafarn yr “Half Moon`”. Mae’r Pwrdy ar yr ochr chwith