Mae Llanarthne â hanes sydd yn cyfoethog. Mae'r eglwys yn dyddio nôl i'r trydydd ganrif ar ddeg. Mae Twr Paxton yn edrych ac yn gofalu dros y Pentre a'r Ardd Fotaneg a Neuadd Middleton o fewn rhyw filltir o'r pentref. Ar ochr arall y plwyf ceir Castell Dryslwyn gyda'i golygfeydd godidog yn edrych dros Dyffryn Tywi.
Cafodd Neuadd Llanarthne ei adeiladu yn 2008. Mae digonedd o le yno i eistedd 150 o fewn y prif neuadd a 25 arall yn y neuadd fach. Ceir 25 ychwanegol yn y Galeri lan lofft. Mae hefyd neuadd fach arall/swyddfa i fyny'r grisiau sydd ar gael i'w logi. Cegin gwych.
Ceir manylion llawn am bris llogi ar gwefan y neuadd: llanarthnevillagehall.co.uk
1 neuadd fawr, 2 fach. Swyddfa hefyd a galeri. Cegin gwych, toiledau i bawb. System sain sydd o fewn yr adeilad ac uwchdaflunydd yn y neuadd fach. WIFI ar gael.
Ar y B4300 rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin. Troi go gyfer â Tafarn yr Emlyn tuag at Twr Paxton. Mae'r Neuadd wedi'i arwyddo o fan yma. Mae'r adeilad tua 200 llath ar yr ochr dde.