Mae'r pentref tua 3½ milltir o Gaerfyrddin yn Nyffryn Gwili. Mae rheilffordd stêm yn y pentref, a nifer o deithiau cerdded ar hyd llwybrau dynodedig.
Agorwyd y Neuadd ym mis Mehefin 1996. I logi'r neuadd, mae'n costio £18 yr awr i gwsmeriaid allanol (mae yna gyfradd is i bobl leol reolaidd). Mae gan y neuadd drwydded gerddoriaeth a thrwydded alcohol.
Mae'n dal uchafswm o 400.
Neuadd Bronwydd Hall, Bronwydd, Sir Caerfyrddin, SA33 6BD.
Rhif Elusen Gofrestredig: 523881.
Mae yna lwyfan yn y neuadd ac mae'n 29 troedfedd wrth 16 troedfedd. Mae sain a goleuadau addas ar gyfer dramâu ac ati. Olew sy'n gweithio'r gwres canolog.
Cymerwch yr A484 tua 2 filltir i'r gogledd o Gaerfyrddin. Trowch i'r dde arno i'r B4301, gan groesi dros Rheilffordd Gwili. Ewch drwy Bronwydd Arms am tua milltir, ac mae'r neuadd ar yr ochr chwith, ychydig yn ôl oddi ar y ffordd mewn maes parcio mawr.