Lakefield - Canolfan Gymunedol Lakefield, Llanelli

Lakefield - Canolfan Gymunedol Lakefield, Llanelli

Tref arfordirol yw Llanelli, ble siaredir y Gymraeg yn eang o hyd, ac mae ganddi gysylltiad hir â’r diwydiannau tunplat, dur a glo. 

Mae’r dref wedi ei thrawsnewid dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf – gwelwyd cau bron y cyfan o’r diwydiannau trwm, adfer safleoedd diffaith, a chreu llawer o gynlluniau amgylcheddol a thwristaidd deniadol.




Y Neuadd

Dyma hen Gapel Siloh y Methodistiaid Calfinaidd, a adeiladwyd yn y 1870au hwyr, ac a oedd wedi gorfod cau ei ddrysau yn y 1970au. Prynwyd y Capel ac eiddo'r Gofalwr gerllaw gan Gyngor y Dref yn Ebrill 1978. Cawsant eu hatgyweirio a'u hadfer yn helaeth a'u troi'n Ganolfan Gymunedol, gyda phrif neuadd sy'n ddigon mawr i'w defnyddio fel cwrt badminton. Cydnabuwyd y cynllun adfer gan Wobr Pwyllgor Tywysog Cymru ar gyfer adfer adeiladau hanesyddol.

Mae'r Ganolfan wedi cael ei hadnewyddu'n sylweddol ymhellach, i drwsio ffabrig yr adeilad (gan gynnwys y to llechi newydd) ac i wella'r cyfleusterau sydd ar gael.

Fel canolfan gymunedol Glenalla, fe'i cofrestrwyd gan CADW fel adeilad rhestredig Gradd 2.

Lleoliad: Ffordd Lakefield, Llanelli SA15 2UE


Nodweddion

Mae cegin yn y ganolfan gymunedol. Mae'r gwres wedi ei gynnwys yn y tâl llogi. Ni ddarperir offer TG.

Parcio ar y stryd.

Costau Llogi

Cysylltwch â'r Cyngor Tref i gael manylion


Cyswllt

Llanelli Town Council / Cyngor Tref Llanelli 01554 774352   Tel:





Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A484 drwy Llanelli. Ar Gylchfan Stryd Thomas, cymerwch droad Stryd yr Eglwys (A4214), sy'n arwain i'r de i Orsaf Rheilffordd Llanelli. Ewch yn syth dros groesffordd Stryd Murray, ac ymlaen ar hyd Heol yr Orsaf (B4304). Heol Lakefield yw'r ail droad ar y dde.


Cyfleusterau

  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC