Pentrefan bach gwledig yw Crugybar, tua hanner ffordd rhwng Talyllychau a Phumsaint. Mae tua 10 milltir o Lanbedr Pont Steffan, Llandeilo a Llanymddyfri.
Mae gan y pentref gapel, garej/siop a thafarn.
Hen ysgol y pentref yw'r neuadd, ac fe'i prynwyd gan y gymuned ym 1995.
Mae yna un brif ystafell, gyda lle i 60 o bobl, ac mae'n bosib i 48-50 o bobl eistedd i gael pryd o fwyd. Mae yma gegin fach ac mae gan y neuadd fynediad i'r anabl a thoiledau. Mae ar gael i'w rhentu am brisiau cystadleuol.
Rhif Elusen Gofrestredig y Neuadd yw 517163
O Lanbedr Pont Steffan, dilynwch yr A482 tua'r de. Ar ôl tua 1.5 milltir, trowch i'r dde at y B4302 i Grugybar.
O Landeilo neu Lanymddyfri dilynwch yr A40/A483 i Lanwrda. Cymerwch yr A482 tua'r gogledd ac ar ôl tua 6.5 milltir, cymerwch y B4302 am hanner milltir i Grugybar.
Mae'r neuadd yng nghanol y pentref.