Hendy-Gwyn, Whitland

Hendy-Gwyn, Whitland

Mae Hendy-gwyn yn dref fechan tua 15 milltir o Gaerfyrddin. Ffiniau'r dref yw'r afon Taf, a Sir Benfro. Gellir pysgota ar yr afon Taf gyda thrwydded sydd ar gael yn lleol.

Mae Hendy-gwyn yn ffodus fod ganddi orsaf reilffordd yn y dref, gyda chysylltiadau uniongyrchol i Lundain, ac i'r gogledd, yn ogystal â gwasanaethau lleol. Yn Hendy-gwyn mae yna 2 ysgol ffyniannus, Swyddfa'r Post, banc, siopau, busnesau, 3 tafarn, caffi, a bwyty ychydig tu allan i'r dref.

Hefyd yn Hendy-gwyn mae canolfan ddehongli enwog Hywel Dda, ac ychydig y tu allan i'r dref mae Abaty Hendy-gwyn, y gellir ei weld drwy ddefnyddio nifer o lwybrau troed o amgylch Hendy-gwyn, yn enwedig llwybr enwog y Landsger.




Y Neuadd

Adeiladwyd y Neuadd ym 1904. Ar un adeg prydelswyd y llawr isaf i gymdeithas gydweithredol ac yna i gigydd, ac yna ym 1950 daeth y llawr uchaf yn sinema, y Coloseum, a gweddill yr adeilad yn glwb staff a chymdeithasol. Ym 1973 trosglwyddwyd y Neuadd i ddwylo pobl Hendy-gwyn, ac yna ym 1992 cafodd ei hymestyn a'i hadnewyddu'n helaeth, gan arwain at y Neuadd sydd i'w gweld heddiw.

Mae'r neuadd yn ddelfrydol ar gyfer Derbyniadau, Partïon, Cinio, Cynadleddau ac Arddangosfeydd.

Maes parcio am ddim yn y cefn gyda tua 80 o lefydd parcio.

Costau Llogi

  • Neuadd a chegin, gan gynnwys cyfleusterau gwneud te a choffi: £12.50 yr awr.
  • Y lolfa lawr stâr a'r gegin: £10 yr awr.
  • Parlwr y Maer: £10.00 yr awr.
  • Neuadd, ynghyd â defnydd llawn o'r gegin / cyfleusterau arlwyo: £90.00 ac £20.00 o flaendal.

Nifer o Bobl

  • Seddi cyngerdd: 200
  • Seddi wrth fyrddau: 150


Rhif Cofrestredig y Comisiwn Elusennau 504650
Neuadd y Dref Hendy-gwyn, Stryd y Brenin Edward, Hendy-gwyn, SA34 0AA


Nodweddion

  • Neuadd fawr i fyny'r grisiau, gyda chegin o faint da ac amrywiaeth dda o gyfleusterau, gyda 2 wrn ac amrywiaeth ragorol o offer arlwyo proffesiynol, ac wrth gwrs ystod lawn o lestri, cyllyll a ffyrc a gwydrau ar gyfer 150, yn ogystal â byrddau a chadeiriau i eistedd 200.
  • Mae gan y neuadd lwyfan y gellir ei symud a system sain, ac mae'n cael ei chynhesu'n llwyr gan wresogyddion nwy.
  • Ystafell gynhadledd fach hefyd ar gael, wedi ei gwresogi gan wresogyddion darfudol a rheiddiadur.

Cyswllt

Helen Ryan   Tel:07854080554  Email: helenmryan87@gmail.com



Oriel




Cyfarwyddiadau

O'r A40, cymerwch y troad at Hendy-gwyn ar gylchfan Ffordd Llanboidy ger Bwyty'r Roadhouse. Ewch i lawr Spring Gardens i waelod yr allt, ychydig cyn croesfan belisha, trowch i'r chwith i mewn i Heol Sant Ioan, yna cymerwch y troad nesaf i'r dde i Stryd y Brenin Edward, ac mae'r brif fynedfa i Neuadd y Dref, Hendy-gwyn ar y chwith.

O'r orsaf drenau, cerddwch i fyny Heol Sant Ioan, nes i chi ddod i Stryd y Brenin Edward ar y chwith, trowch i mewn i Stryd y Brenin Edward, ac mae prif fynedfa Neuadd y Dref Hendy-gwyn ar y chwith. The disabled and side entrance is accessed  from the car park.


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • Wheelchair Access to rearWheelchair Access to rear
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level EntranceLevel Entrance
  • Ramp (up)Ramp (up)
  • Internal LiftInternal Lift