Gwynfe - Neuadd Gymunedol Gwynfe, Gwynfe

Gwynfe - Neuadd Gymunedol Gwynfe, Gwynfe

Mae gan bentref Gwynfe ei gymeriad arbennig ei hun; pentref ffermio o bobl sydd wedi byw yma ers cenedlaethau, tra bod ychwanegiad mewnfudwyr sydd wedi dod yma i ymddeol yn sicrhau cyfuniad diddorol. Saif Gwynfe ym mryniau Sir Gaerfyrddin Bannau Brycheiniog, ac mae'r boblogaeth i'w gweld mewn ffermydd a thai gwasgaredig.


Yng nghanol y pentref, saif y Neuadd Gymunedol, ger casgliad o anheddau, bythynnod o gerrig yn bennaf, ac eglwys fechan; mae dau gapel yn yr ardal wledig. Nid oes Ysgol, Siop, Tafarn na Thrafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngwynfe, ac felly mae'r Neuadd yn darparu gwasanaeth pwysig. Cynhelir y Cwrt-lît hynafol yn y Neuadd.




Y Neuadd

Dros y blynyddoedd, mae ein Neuadd wedi ennill clod o wahanol ffynonellau, rhai ohonynt yn wobrau fel Gwobr Diwylliant Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 2003, Gwobr Clwb Rotari a noddwyd gan Calor Gas 2004, Pentref y Flwyddyn Sir Gaerfyrddin ym mhob categori, ac Enillydd Gwobr TG yn Sir Gaerfyrddin; yn ddiweddarach y flwyddyn, honno enillom Wobr Genedlaethol Calor ar gyfer 2004 dros Gymru Gyfan ar gyfer Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, ac yn 2005 Gwobr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gydnabod ein gwaith yn gwarchod a gwella'r amgylchedd gwledig o fewn y Parc Cenedlaethol.

Prisiau

£10 - yr awr

£15 - ar ben pob ffi llogi i ddefnyddio Trwydded Alcohol (Sylwch fod llogwyr yn gyfrifol am redeg eu bar eu hunain a chodi tâl am ddiodydd.)

£200 - Trwy'r Dydd A Mwy yn cynnwys 4 awr ar gyfer gosod i fyny y noson flaenorol; Diwrnod y Digwyddiad 16 awr; clirio'r bore canlynol 4 awr

£140 - Diwrnod Yn Unig yn cynnwys y Neuadd a'r Offer 16 awr

£155 - Diwrnod Yn Unig fel uchod + Trwydded

Uchafswm llefydd: 80 person wrth Fyrddau a Chadeiriau; 120 mewn seddau tebyg i theatr.

Dimensiynau'r neuadd yw 11 metr x 6.1 metr.

Mae yna Ystafell Werdd fach er mwyn i Artistiaid newid, ond mae'n aml-bwrpas, fel ein Neuadd, a gellir ei defnyddio mewn sawll ffordd.

Mae 7 o risiau ym mhrif fynedfa'r neuadd, ond mae mynediad i'r ochr heb unrhyw risiau, sy'n rhoi mynediad i gadeiriau olwyn.

Mae'r Neuadd yn cael ei defnyddio fel Gorsaf Bleidleisio ar gyfer etholiadau.

Capel Gwynfe, Llangadog, SA19 9RD Sir Gaerfyrddin. Elusen Gofrestredig Rhif 1079360.


Nodweddion

  • Cyfleuster i'r Anabl; Toiledau'r neuadd sydd ar agor 24 awr, ac yn lân.
  • Cegin gyda phopty, microdon, oergell, tegell, gwydrau, cyllyll a ffyrc a llestri a boeler dŵr ar gyfer diodydd poeth cyflym.
  • Mae gennym lwyfan y gellir ei dynnu i lawr, llenni llwyfan a goleuadau llwyfan; mae yna fleinds i'w defnyddio yn ystod y dydd.
  • Mae ein hoffer TG yn cynnwys pedwar cyfrifiadur pen bwrdd a phedwar gliniadur, dau argraffwr a chyfleusterau i blygio gliniadur i mewn i'w ddefnyddio gyda'n taflunydd a'n sgrin fawr.
  • Mae gennym system sain wedi ei hadeiladu i mewn, i'w defnyddio gyda'n CD, Fideo a Chwaraewr Tâp.
  • Mae gennym biano trydan.
  • Mae yna wresogyddion ffan yn y Neuadd.
  • Mae yma 2 le parcio i'r anabl a 2 le parcio arferol, gyda digon o le i barcio ar y ffordd gyfagos.

Cyswllt

Colin Davies   Tel:01550 740462



Oriel




Cyfarwyddiadau

Gellir cyrraedd Gwynfe o sawl cyfeiriad, gan ddibynnu ar ddechrau'r daith. Ffoniwch Colin Davies 01550 740462, i gael yr union fanylion.
Daw'r rhan fwyaf o bobl at Langadog a theithio ar hyd yr A4069 hyd nes troad Gwynfe, ger yr hyn a arferai fod yn dafarn y Three Horse Shoes.
Oddi yno mae'r daith yn parhau tua 2 filltir, ar hyd lôn wledig, nes i chi gyrraedd arwydd "Croeso i Wynfe".
Oddi yma mae'r Neuadd ½ milltir ar y dde, yn swatio yn y Mynydd Du; fy fyddwch yn gwybod eich bod wedi cyrraedd pan welwch y cerflun enwog "Y Tri Barcut Coch".


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • 2 Disabled Spaces2 Disabled Spaces
  • 7 Steps7 Steps
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level EntranceLevel Entrance
  • Ramp (up)Ramp (up)
  • Ramp (down)Ramp (down)
  • Induction LoopInduction Loop