Canolfan Gymunedol CPD Tref Caerfyrddin, Caerfyrddin

Canolfan Gymunedol CPD Tref Caerfyrddin, Caerfyrddin

Ffurfiwyd y Clwb ym 1948, ac erbyn hyn mae’n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru - y lefel uchaf posib y gall y clwb ei chyrraedd.
Agorwyd y Ganolfan Gymunedol yn 2009




Y Neuadd

Mae'n hollol addas ar gyfer unrhyw achlysur.
Mae wedi ei haddurno'n gysurus a'i haerdymheru'n llwyr.
Celfi cyffyrddus - digon ar gyfer 150 o bobl.
Yn addas ar gyfer disgo ieuenctid a gweithgareddau eraill.
Mae'n harlwywyr mewnol yn cynnig prydau bwyd rhagorol gan gynnwys Cinio Dydd Sul.
Teledu Sky.
www.carmarthentown.net
Parc Waun Dew, Caerfyrddin, SA31 1HZ

Cymdeithasol: Mark Hannington 07929 509539 

markfootieclub@hotmail.com

Busnes: Jeff Thomas 07813 697774

jeffthomas@jeffthomas.plus.com

 


Nodweddion

Ystafelloedd cyfarfod.
Cyfleusterau cynadledda.
Bar trwyddedig llawn.
Yn ystod y dydd, mae’r Ganolfan yn hawdd ei chyrraedd o Faes Parcio San Pedr trwy Barc Waun Dew (100 llath ar hyd llwybrau concrit). Mae yna le i barcio 25 car o fewn Parc Waun Dew, mynediad o Faes Parcio San Pedr. Mae Maes Parcio Heol y Prior gyferbyn â’r ganolfan.
Un gris (i'r ystafell gyfarfod lawr llawr)


Cyswllt

See Hall Info Field above for contact details / Gweler uchod am fanylion cyswllt   Tel:





Cyfarwyddiadau

Cyfarwyddiadau:

O'r Rheilffordd - Gorsaf y Brif Linell
Ar ôl gadael yr orsaf, croeswch hen bont Caerfyrddin i gyfeiriad tref Caerfyrddin. Wrth y golau, croeswch yr heol a dilynwch y ffordd i’r dde i fyny Rhiw’r Castell heibio i Neuadd y Sir ac ewch ar hyd Heol Spilman ac yna Heol y Prior am 200m, heibio i Eglwys San Pedr. Fe fyddwch yn dod at Y Ganolfan trwy faes parcio Heol y Prior. Tua 1 filltir o’r orsaf drenau / 10-15min 


Ar y Ffordd

O’r D & Gn – M4/A48 (Abertawe/Llanelli)
Wrth y gylchfan fawr ar gyrion y dref, cymerwch y 3edd allanfa gan ddilyn yr arwydd at Ganol y Dref. Wrth y gylchfan nesaf, cymerwch yr allanfa gyntaf i’r chwith a pharhewch at y gylchfan nesaf. Cymerwch yr ail allanfa at ganol y Dref. Croeswch hen bont Caerfyrddin yna dilynwch fel uchod.

A40 (Hwlffordd)
Dilynwch yr arwyddion at Aberteifi / Llanbedr Pont Steffan a Llandeilo / Aberhonddu.  O Hen Bont Caerfyrddin a’r Castell –  dilynwch y cyfarwyddiadau uchod


O’r Dn & G  A484 & A485 (Llanbedr Pont Steffan)  A40 (Llandeilo, Aberhonddu)

Wrth y gylchfan ar gyrion Caerfyrddin yn Abergwili defnyddiwch y ffordd osgoi (arwyddion yn dweud 'traffig trwodd'). Wrth y gylchfan fawr nesaf (1 filltir) trowch i’r dde a dilynwch yr arwyddion at yr Ysbyty (H A & E) a’r Rheilffordd Ager.  Trowch i’r chwith wrth y gylchfan nesaf  ac yna  heibio i’r ysbyty tuag at y gylchfan fach. Trowch i’r chwith at ganol y dref.  Ewch ar draws y gylchfan fawr ac o fewn 1 filltir wrth y gylchfan fach ewch ar hyd Heol y Prior. Mae’r Ganolfan Gymunedol ar y chwith ar ôl tua 200m

Bws
O'r orsaf fysiau, cerddwch drwy’r ardal bedestraidd i gyfeiriad Eglwys San Pedr. Cerddwch ar hyd Heol y Prior am tua 200m. Mae’r ganolfan gymunedol ar y chwith trwy faes parcio Heol y Prior. Taith tua 10min.


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • 25 Disabled Spaces25 Disabled Spaces
  • 1 Step1 Step
  • 1 Step1 Step
  • 1 Step1 Step
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level EntranceLevel Entrance