Mae Caerfyrddin yn gymuned ac yn y dref yn Sir Gaerfyrddin, Cymru. Mae wedi ei lleoli ar lannau'r Afon Tywi a dywedir mai dyma'r dref hynaf yng Nghymru.
Yng Nghaerfyrddin mae yna nifer o atyniadau treftadaeth sydd wedi goroesi, gan gynnwys amffitheatr Rufeinig a'r castell canoloesol. Mae Rheilffordd Gwili, rhan o'r hen reilffordd i Aberystwyth, wedi ail-agor fel rheilffordd dreftadaeth i dwristiaid.
Mae cyfran fawr o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerfyrddin, dyma leoliad pencadlys Heddlu Dyfed-Powys, ac mae hefyd yn gartref i Goleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin yn ogystal ag Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru.
Dyma hen Dŷ Eglwys San Pedr. Mae'r costau hurio yn dibynnu ar yr amserau a'r cyfleusterau gofynnol a.y.b. Mae'n gallu dal uchafswm o 418 o bobl, pan fydd y neuadd lawn wedi ei gosod ar ffurf theatr, gan gynnwys y defnydd o’r oriel
Llwyfan, cegin, oriel, desg docynnau, ystafelloedd newid, ardal bar, Teledu/DVD, byrddau, meicroffonau, offer sain a goleuadau, sgrin taflunydd, gwres a socet cyswllt rhyngrwyd
Mae'r neuadd wedi ei lleoli yng nghanol tref Caerfyrddin ar ddiwedd Stryd y Brenin ym Maes Nott rhwng Subway a Banc Britannia.