Neuadd Goffa, Hendygwyn, Hendygwyn

Neuadd Goffa, Hendygwyn, Hendygwyn

Tref fechan ar lannau’r  Afon Taf yn Sir Gaerfyrddin yw Hendygwyn. Saif  ar ffin  y Sir , felly mae mewn safle delfrydol i wasanaethu Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal â Sir Gaerfyrddin. O amgylch y dref mae ardaloedd gwledig hyfryd ond mae hefyd yn agos i’r ffordd fawr sy’n cysylltu Llundain â’r Iwerddon.

Mae gan Hendygwyn ei gorsaf reilffordd ei hun ar ganol y dref, nifer o fusnesau llewyrchus, Ysgol Gynradd ac Ysgol Gyfun a Gerddi a Chanolfan adnabyddus Hywel Dda.     Mae hefyd yn gartref I amrywiaeth eang o feysydd chwarae a chlybiau, gan gynnwys  Rygbi, Pêl Rwyd, Pêl Droed, Criced a Bowls.




Y Neuadd

Mae Neuadd Goffa, Hendy Gwyn (www.whitlandmemorialhall.co.uk) yn Elusen Gofrestredig   (Rhif 518760) yn gweithredu fel busnes “nid er elw” ac yn dibynnu’n gyfangwbl ar dderbyniadau hunangynhyrchiol.

 Adeiladwyd Neuadd Goffa, Hendygwyn ym 1927 “i’w defnyddio’n wastadol fel man adloniant a chyfeillach gymdeithasol er budd trigolion tref Hendygwyn-ar-Daf yn ddiwahaniaeth o enwad na gwleidyddiaeth”.

 Yn y Neuadd mae cofeb i’r rhai a fu farw yn y ddwy Ryfel Byd.

Cyfeiriad:
Memorial hall
Market Street
Whitland
SA34 0QB


Nodweddion

Dwy ystafell eang

Gwres canolog a ffenestri gwydrog dwbl.

Cegin osod fodern gyda rhewgell, pentan nwy a ffwrn ficro-don.

Y cyfan ar un lefel (ramp mynediad i'r anabl ar gael).

Cyfleusterau i’r anabl a mynedfa ddrysau dwbl.

Yn hawdd i’w llogi - ffôn/post/e-bost/gwefan

 

CYFLEUSTERAU YCHWANEGOL

Fordydd a chadeiriau clustogog i’w defnyddio ar y safle.

Llestri a chytleri ar gael i’w defnyddio ar y safle.

Cysylltiad rhyngrwyd bandlydan WI-FI ar gael.

Prosiector a sgîn ar gael ar gyfer cyflwyniadau, trwy gytundeb ymlaen llaw.


Cyswllt

Mrs Gabriela Poore   Tel:01994 448701



Oriel




Cyfarwyddiadau

O’r A40 cymerwch heol y B4328 i fewn i Hendygwyn.  Mae’r Neuadd Goffa yn Stryd y Farchnad (B4328) gyferbyn â Modurdy’r Orsaf.

 O’r orsaf  reilffordd, cerddwch i fyny Stryd y Santes Fair, heibio Canolfan Hywel Dda a throi i’r chwith ar ôl i chi gyrraedd Stryd y Farchnad.  Mae’r Neuadd Goffa gyferbyn â Modurdy’r Orsaf.


Cyfleusterau

  • 2 Steps2 Steps
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • Wheelchair Access to front (by prior arr.)Wheelchair Access to front (by prior arr.)
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level Entrance (High Threshold)Level Entrance (High Threshold)
  • Ramp (up)Ramp (up)
  • Ramp (down)Ramp (down)