Myddfai - hafan dawel, heddychlon, wedi’I chwmpasu gan harddwch naturiol eithriadol Bannau Brycheiniog.
Mae Myddfai yn adnabyddus am hanes a threftadaeth “Meddygon Myddfai” oedd yn llinach o lysieuwyr ac ymarferwyr meddygol yn mynd yn ol I’r canoloesoedd.
Gallwych ymweld a’n siop ar-lein, cael mwy o wybodaeth am Fyddfsi, yn http://www.myddfai.org/
Agorwyd Neuadd Gymuned a Chanolfan Ymwelwyr Myddfai yn swyddogol gan Eu Huchelderau Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw ar 30ain Mehefin 2011.
AMSERAU AGOR EIN CAFFI A’N SIOP
Ar agor ar bob Gŵyl Banc ac eithrio adeg Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Cyfeiriad y Neuadd: Neuadd Gymuned a Chanolfan Ymwelwyr, Myddfai, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, SA20 0JD
Cynlluniwyd y neuadd fawr hon i’w defnyddio gan y gymuned yn ogystal â bod yn lleoliad perffaith ar gyfer cynadleddau,seminarau a brecwastau priodas, lle y gellir trefnu arlwyo.Gellir ei llogi gan glybiau, cymdeithasau ac elusennau ar gyfer digwyddiadau a rhaglenni rheolaidd. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys yr offer goleuo a sain diweddaraf, WiFi, cyfleusterau taflunio, llenni tywyll a llwyfan symudol, sy’n ei wneud yn ddelfrydol fel lleoliad ar gyfer perfformiadau o safon uchel. Ar gael saith diwrnod yr wythnos.