Mae Llanboidy yn bentref golygfaol hanesyddol sydd wedi’i leoli yng nghefn gwlad prydferth Gorllewin Cymru. Gellir olrhain ei darddiad yn ôl i'r Oes Haearn gyda safle caer o goed yn y pentref. Mae'n cael ei gwasanaethu gan ysgol gynradd Gymraeg, Eglwys Sant Brynbach, swyddfa bost a siop.
Datblygwyd y pentref fel y gwelir heddiw gan W. R. H. Powell ac adeiladodd Neuadd y Farchnad yn 1882 i alluogi’r gymuned leol i werthu eu cynnyrch mewn lleoliad marchnad. Dyfarnodd Cadw statws Rhestredig Gradd II i'r Neuadd i gadw ei strwythur to unigryw.
Ffeithiau hanesyddol: Mae to'r Neuadd yn cynnwys cyplau to pren a haearn cymhleth. Ar y wal gefn, gallai sgriniau pinwydd pigfain gael eu troi allan i greu baeau marchnad unigol i alluogi'r masnachwyr i arddangos eu nwyddau a'u cynnyrch.
Mae costau llogi ar gael ar gais.
Bydd hyd at 250 o seddi ar gyfer cyngherddau.
Rhif Elusen: 504819
Mae Neuadd y Farchnad yn cael ei rhedeg gan grŵp bach o Ymddiriedolwyr gwirfoddol ac aelodau pwyllgor.
Mae'r Neuadd yn cynnwys prif neuadd fawr, dolen glyw a system sain fewnol. Llwyfan uwch i gynnwys bandiau, corau a dramâu.
Band eang yn cael ei osod. Meicroffonau radio a ddelir â llaw a phecyn gwregys. Sgrin (tynnwch â llaw) 120”. Offer cyfryngau eraill sy’n cael eu prynu ar hyn o bryd i wella gallu’r Neuadd i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau e.e. partïon, derbyniad priodas, gwleddoedd a chynadleddau. Mynediad llwytho hawdd.
Cegin wedi'i ffitio'n llawn. Popty ‘Range’ a peiriant golchi llestri.
Byrddau crwn ac hirgul ynghyd â chadeiriau.
Ystafell gyfarfod/hyfforddi.
Mae'r neuadd yn cael ei gwresogi gan wresogyddion trydan wedi'u gosod ar y wal. Codi’r tâl am ddefnyddio trydan fesul uned.
Mae Llanboidy mewn lleoliad canolog 6 milltir o Hendy-gwyn ar Daf a 7 milltir o Sanclêr. Fe'i lleolir ar y ffordd fawr drwy'r pentref.
Wedi'i leoli wrth ymyl y toiledau cyhoeddus ac ychydig i lawr y ffordd o’r Swyddfa'r Post ac eglwys y pentref.
Côd post: SA34 0EJ
Neuadd Farchnad Llanboidy
Llanboidy
Hendy-gwyn ar Daf
Sir Gaerfyrddin