Polisi Preifatrwydd y Wefan

Gwybodaeth am ein mudiad a gwefannau:

Mae technolegau gwybodaeth a chyfathrebu modern yn chwarae rhan sylfaenol o weithgarwch mudiad fel Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS). Mae ein swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Cymru, y DG.

Ein prif weithgarwch yw: Hyrwyddo holl neu unrhyw bwrpasau er lles y gymuned yn Sir Gaerfyrddin, sydd ar hyn o bryd neu i’r dyfodol yn cael ei ystyried yn ôl y gyfraith yn elusennol ac yn benodol felly hyrwyddo addysg, meithrin iechyd a lleddfu tlodi, trallod ac afiechyd.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefannau CAVS: www.cavs.org.uk, http://www.carmarthenshirehalls.org.uk/  a gwefannau allai fod gan CAVS yn y dyfodol (nid yw dolenni eraill yn y gwefannau hyn i wefannau nad ydynt yn eiddo i CAVS yn cael eu cynnwys yn y polisi hwn).

Enw a chyfeiriad y mudiad:

Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin Cyfeiriad: Y Mwnt, 18 Heol y Frenhines, Caerfyrddin SA31 1JT Ffôn: 01267 245555, Ffacs: 01267 245550 Ebost: admin@cavs.org.uk

Rhoi mynediad dienw i ymwelwyr

Gallwch gael mynediad at hafan ein gwefan a phori ein gwefannau heb ddatgelu eich data personol.

Gwasanaethau a dolenni ein gwefannau

Mae ein gwefannau’n eich galluogi i gyfathrebu ag ymwelwyr eraill neu bostio gwybodaeth y gall eraill gael mynediad ati. Pan wnewch chi hynny, gall ymwelwyr eraill gasglu eich data.

Casglu gwybodaeth

Nid ydym yn awtomatig yn cofnodi data personol ac nid ydym ychwaith yn cysylltu gwybodaeth a gofnodwyd yn awtomatig trwy ddulliau eraill gyda data personol am unigolion penodol.

Rydym yn casglu’r data personol a wirfoddolir gennych wrth ddefnyddio ein gwefannau.

Nid ydym yn casglu na defnyddio data personol at unrhyw ddiben ac eithrio’r hyn a nodir uchod. Os ydym yn dymuno defnyddio eich data personol at ddiben newydd, byddwn yn cynnig ichi’r modd o gydsynio â’r ddiben newydd hon trwy ddangos hynny mewn blwch yn y man yn y wefan lle y caiff data personol ei gasglu.

Datgelu a dewis ymwelwyr

Nid ydym yn datgelu eich data personol i fudiadau eraill.

Rydym yn gofalu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i sefydliadau ac awdurdodau’r Wladwriaeth ac eithrio os yw hynny’n ofynnol gan y gyfraith neu reoliadau eraill.

Rhaid i’n holl weithwyr a phroseswyr data, sy’n cael mynediad at ddata personol ac sy’n rhan o’i brosesu, barchu cyfrinachedd data personol ein hymwelwyr.

Gallwch ofyn inni a ydym yn  cadw data personol amdanoch a gofyn am gopi o’r data hwnnw trwy:

  • ddanfon ebost at: admin@cavs.org.uk
  • ddanfon llythyr at: Y Tîm Gweinyddol, CAVS, yn y cyfeiriad uchod.

Byddwn yn darparu copi darllenadwy ar eich cyfer o’r data personol a gadwn amdanoch o fewn pythefnos – er y bydd rhaid inni gael prawf o’ch hunaniaeth cyn gwneud hynny. Byddwn yn darparu’r wybodaeth heb godi unrhyw dâl.

Her

O dan ddarpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 gallwch herio’r data a gadwn amdanoch a, lle’n briodol, gallwch fynnu fod y data:

  • yn cael ei ddileu
  • yn cael ei gywiro neu newid
  • yn cael ei gwblhau.

Cadwn yr hawl i wrthod darparu ar gyfer ein hymwelwyr gopi o’u data personol ar gyfer unrhyw un o’r eithriadau perthnasol a nodir yn Neddf Diogelu Data 1998 – fe roddwn resymau pam rydym yn gwrthod. Gallwch, er hynny, herio ein penderfyniad i wrthod darparu copi o’ch data personol ar eich cyfer.

Cyfrinachedd/Diogeledd

Fe roddwn ichi’r dewis o ddefnyddio dull trosglwyddo diogel ar gyfer danfon y mathau canlynol o ddata personol atom:

  • Data personol cynradd (megis enw a manylion cyswllt)
  • Dynodwyr (megis manylion cardiau credyd, cyfrinair gwefan).

Rydym wedi gweithredu polisïau, rheolau a chamau technegol  diogeledd er mwyn diogelu’r data personol sydd yn ein meddiant rhag:

  • defnydd heb awdurdod
  • defnydd neu ddatgelu amhriodol
  • diwygiadau heb awdurdod
  • dinistrio anghyfreithlon neu golli damweinol.

Cydymffurfiaeth Preifatrwydd

Cofrestrwyd CAVS yn Rheolydd Data o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Er mwyn dangos fod ein polisi preifatrwydd yn gydnaws â’r ddeddfwriaeth uchod, cynhelir archwiliadau diogelu data annibynnol ohonom gan:

Y Comisiynydd Gwybodaeth

https://ico.org.uk/

Llinell gymorth yr ICO: 08456 30 60 60 / 01625 54 57 45

Ffôn: 020 7025 7580, Ffacs: 01625 524510

Post: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF