Tref arfordirol yw Llanelli, ble siaredir y Gymraeg yn eang o hyd, ac mae ganddi gysylltiad hir â’r diwydiannau tunplat, dur a glo.
Mae’r dref wedi ei thrawsnewid dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf – gwelwyd cau bron y cyfan o’r diwydiannau trwm, adfer safleoedd diffaith, a chreu llawer o gynlluniau amgylcheddol a thwristaidd deniadol.
Mae yna gegin yn y ganolfan gymunedol. Mae gwres wedi ei gynnwys yn y tâl llogi. Ni ddarperir offer TG.
Mae maes parcio bach ger y ganolfan.
Costau Llogi
Cysylltwch â'r Cyngor Tref i gael manylion.
Mae gan y ganolfan ddolen sain.
Lleoliad: Heol Nant-y-Felin, Llanerch, Llanelli SA15 3PA.
Cymerwch yr A484 drwy Llanelli. Ar Gylchfan Castell Abertawe, cymerwch droad Heol Goffa. Ewch ymlaen am tua thraean o filltir a throwch i'r chwith i mewn i Heol Nant-y-Felin.