Mae Hendy-gwyn yn dref fechan tua 15 milltir o Gaerfyrddin. Ffiniau'r dref yw'r afon Taf, a Sir Benfro. Gellir pysgota ar yr afon Taf gyda thrwydded sydd ar gael yn lleol.
Mae Hendy-gwyn yn ffodus fod ganddi orsaf reilffordd yn y dref, gyda chysylltiadau uniongyrchol i Lundain, ac i'r gogledd, yn ogystal â gwasanaethau lleol. Yn Hendy-gwyn mae yna 2 ysgol ffyniannus, Swyddfa'r Post, banc, siopau, busnesau, 3 tafarn, caffi, a bwyty ychydig tu allan i'r dref.
Hefyd yn Hendy-gwyn mae canolfan ddehongli enwog Hywel Dda, ac ychydig y tu allan i'r dref mae Abaty Hendy-gwyn, y gellir ei weld drwy ddefnyddio nifer o lwybrau troed o amgylch Hendy-gwyn, yn enwedig llwybr enwog y Landsger.
Adeiladwyd y Neuadd ym 1904. Ar un adeg prydelswyd y llawr isaf i gymdeithas gydweithredol ac yna i gigydd, ac yna ym 1950 daeth y llawr uchaf yn sinema, y Coloseum, a gweddill yr adeilad yn glwb staff a chymdeithasol. Ym 1973 trosglwyddwyd y Neuadd i ddwylo pobl Hendy-gwyn, ac yna ym 1992 cafodd ei hymestyn a'i hadnewyddu'n helaeth, gan arwain at y Neuadd sydd i'w gweld heddiw.
Mae'r neuadd yn ddelfrydol ar gyfer Derbyniadau, Partïon, Cinio, Cynadleddau ac Arddangosfeydd.
Maes parcio am ddim yn y cefn gyda tua 80 o lefydd parcio.
Costau Llogi
Nifer o Bobl
Rhif Cofrestredig y Comisiwn Elusennau 504650
Neuadd y Dref Hendy-gwyn, Stryd y Brenin Edward, Hendy-gwyn, SA34 0AA
O'r A40, cymerwch y troad at Hendy-gwyn ar gylchfan Ffordd Llanboidy ger Bwyty'r Roadhouse. Ewch i lawr Spring Gardens i waelod yr allt, ychydig cyn croesfan belisha, trowch i'r chwith i mewn i Heol Sant Ioan, yna cymerwch y troad nesaf i'r dde i Stryd y Brenin Edward, ac mae'r brif fynedfa i Neuadd y Dref, Hendy-gwyn ar y chwith.
O'r orsaf drenau, cerddwch i fyny Heol Sant Ioan, nes i chi ddod i Stryd y Brenin Edward ar y chwith, trowch i mewn i Stryd y Brenin Edward, ac mae prif fynedfa Neuadd y Dref Hendy-gwyn ar y chwith. The disabled and side entrance is accessed from the car park.