Ffurfiwyd Cymdeithas Les Caerbryn dros 75 mlynedd yn ôl, a chynhaliwyd ei chyfarfod cyntaf yn sied goch y pwll glo.
Gyda llond lle o grantiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, werth dros £130,000, mae'r tir o gwmpas y safle a'r sied goch wedi datblygu i fod yn barc hamdden gyda neuadd les fodern. Mae'n llawn bob dydd a nos yn ystod yr wythnos gyda gweithgareddau yn amrywio o wersi Salsa i fingo.
Mae'r neuadd yn gwbl hygyrch ac mae maes parcio ar y safle.
O Rydaman, ewch ar yr A483 tuag at Landybie. Wedi cyrraedd Llandybie, trowch i'r chwith ar ddiwedd Heol Rhydaman i ymuno â'r B4556. Ewch tua'r de orllewin ar y B4556 tan i chi gyrraedd Caerbryn. Trowch i'r chwith i lawr Ffordd Caerbryn, sydd ar dro llym i'r dde ar y B4556. Y neuadd yw'r adeilad cyntaf ar y dde.
O Cross Hands, ewch tua'r gogledd-ddwyrain tuag at Gorslas. Wedi cyrraedd Gorslas, dilynwch y B4556 hyd nes i chi gyrraedd Caerbryn. Trowch i'r dde i lawr Ffordd Caerbryn. Y neuadd yw'r adeilad cyntaf ar y dde.