Mae Pontargothi yn gorwedd y naill ochr i heol yr A40, o Gaerfyrddin i Landeilo - tua 5 milltir i'r dwyrain o Gaerfyrddin. Mae'n enwog am yr Afon Cothi hardd, sy'n rhedeg drwy'r pentref; Eglwys ogoneddus y Drindod, sy'n sefyll ar lan yr Afon Cothi, a Sioe flynyddol Pontargothi. Mae Maes y Sioe ei hun hefyd yn lleoliad poblogaidd ar gyfer digwyddiadau marchogaeth a ralïau carafanau.
Adeiladwyd y Neuadd fel cofeb i ddeg o ddynion ifanc o'r ardal a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe'i hadnewyddwyd yn llawn a'i hymestyn yn 2006. Gall gynnwys hyd at 150 o bobl ar eu heistedd neu 100 o amgylch y byrddau.
Ers ei hadnewyddu, mae wedi profi'n boblogaidd fel lleoliad ar gyfer gweithdai a seminarau, a nifer o weithgareddau lleol. Y rhif elusen gofrestredig yw 524,026. Cost hurio'r Neuadd yw o £35 y sesiwn, i'w thrafod. Mae yna le i 40 o gerbydau.
Neuadd Goffa Pontargothi, Pontargothi, Caerfyrddin, SA32 7LZ
Rhif Elusen Gofrestredig 524026
Ewch tua'r dwyrain o Gaerfyrddin ar yr A40 tuag at Nantgaredig. Ewch drwy Nantgaredig ac ewch tuag at Bontargothi. Mae'r neuadd ar y dde ychydig cyn y bont.