Croeso i gyfeiriadur Neuaddau Sir Gâr sy’n rhoi manylion y neuaddau cymunedol rhagorol sydd ar gael i’w llogi yn Sir Gâr, a’u lleoliadau.
Dyma brif nodweddion yr wybodaeth sydd i’w chael yma:
Dod o hyd i neuaddau a gweithgareddau:
Os ydych yn aelod o bwyllgor neuadd ac os hoffech i’ch neuadd gael ei chynnwys yn y cyfeiriadur hwn, defnyddiwch y dudalen Ychwanegu Neuadd i ychwanegu’r neuadd eich hun neu cysylltwch â ni. Mae’r wefan yn ffordd effeithiol o hyrwyddo’r cyfleusterau a gweithgareddau sydd ar gael yn eich cymuned leol.
Os ydych yn byw mewn cymuned, neu wedi symud yno’n ddiweddar, bydd y wefan hon yn rhoi gwybodaeth ichi am yr holl weithgareddau cymdeithasol, iechyd a llesiant a gweithgareddau dysgu ar gyfer pob oed sydd ar gael mewn trefi a phentrefi ar hyd a lled y sir. Efallai hefyd yr hoffech ddechrau grŵp gweithgaredd eich hun, a bydd gwybod pa leoliadau ac adnoddau sydd ar gael yn eich helpu i ddod o hyd i’r lleoliad iawn ar gyfer eich digwyddiadau.
Chwilio am wasanaethau yn eich cymuned - infoengine
Datblygwyd y cyfeiriadur gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gâr