Wrth ddefnyddio gwefannau www.cavs.org.uk, a www.carmarthenshirehalls.org.uk rydych yn derbyn yr amodau a thelerau canlynol yn awtomatig:
Ymwadiad
Darperir yr holl gynnwys yn y gwefannau uchod er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Nid yw CAVS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol a restrir, ac nid yw ychwaith yn cymeradwyo unrhyw gynnyrch neu wasanaeth masnachol y cyfeirir atynt neu a awgrymir ar unrhyw un o’r gwefannau hyn.
Datganiad Hawlfraint
Oni nodir yn wahanol mae gan CAVS hawlfraint ar y deunyddiau a gynhwysir yn y gwefannau hyn, ac ni ddylid eu llungopïo, eu dyblygu na’u hatgynhyrchu ar unrhyw ffurf heb gael cydsyniad ysgrifenedig penodol gan CAVS.
Mae gan CAVS hawlfraint ar ddeunyddiau amlgyfryngol, sain a fideo oni nodir yn wahanol. Mae’r hawlfraint ar unrhyw ddeunyddiau sain a fideo ychwanegol ar y wefan hon yn eiddo i’w hartistiaid perthnasol a chafwyd caniatâd i ddefnyddio pob un ohonynt.