Tref arfordirol yw Llanelli, ble siaredir y Gymraeg yn eang o hyd, ac mae ganddi gysylltiad hir â’r diwydiannau tunplat, dur a glo.
Mae’r dref wedi ei thrawsnewid dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf – gwelwyd cau bron y cyfan o’r diwydiannau trwm, adfer safleoedd diffaith, a chreu llawer o gynlluniau amgylcheddol a thwristaidd deniadol.
Adeiladwyd Capel Methodistiaid Cymraeg Glenalla ym 1909, ac ychwanegwyd estyniad ar gyfer ysgoldy ym 1914. Gwelwyd cynulleidfaoedd Glenalla yn lleihau ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac yn parhau i ostwng hyd nes yr oedd yn rhaid ei gau ym 1987. Erbyn cau'r capel, roedd yr adeilad wedi dirywio'n fawr.
Prynwyd y Capel gan Gyngor y Dref ym 1987, ac ym 1991 cwblhawyd cynllun adfer llawn i greu Neuadd Ddinesig ysblennydd sy'n cadw cymeriad nodweddiadol yr adeilad gwreiddiol. Trawsnewidiwyd ysgoldy'r Capel yn ganolfan gymunedol. Mae'r cynllun adfer wedi cael cydnabyddiaeth gan Wobr Pwyllgor Tywysog Cymru ar gyfer adfer adeiladau hanesyddol. Mae bellach wedi'i gofrestru gan CADW fel adeilad rhestredig Gradd 2.
Lleoliad: Heol Glenalla, Llanelli, SA15 1EE
Parcio ar y stryd. Mynediad i gadeiriau olwyn ar yr ochr.
Mae yna lwyfan yn y Neuadd Ddinesig.
Mae gan y neuadd a'r ganolfan gymunedol gegin yr un. Mae'r gwres wedi ei gynnwys yn y tâl llogi. Ni ddarperir offer T.G.
Prisiau Llogi
Cysylltwch â'r Cyngor Tref i gael manylion
Ar yr A484 drwy Lanelli, cymerwch allanfa Sgwâr y Coleg wrth gylchfan Castell Abertawe ac yna parhewch i mewn i Heol Glenalla.